• TopStripes
MindHub Cy

Yn eich helpu chi ar hyd eich siwrnai.

Mae’r canolbwynt yma wedi’i greu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc; mae’n rhoi gwybodaeth a dolenni i wasanaethau sy’n ymwneud â’ch lles a’ch iechyd emosiynol.

Iselder/Teimlo’n Isel
Mae iseldir yn gyfnod pan ydych yn teimlo yn drist a phan nad oes gennych lawer o ddiddordeb yn gyson.
Meddyliadau Hunanladdol
Weithiau mae pobl yn teimlo nad oes gobaith neu weithiau gallai pobl feddwl am ddod â’r cwbl i ben.
Pyliau o Banig, Straen a Phryder
Pan fyddwch mewn sefyllfaoedd penodol gallech chi deimlo’n anesmwyth, pryderus ac ofnus, sy'n gwneud i chi deimlo’n anghyfforddus yn feddyliol ac yn gorfforol a gofidus.
Bwlio
Pan fo rhywun yn bwriadu eich niweidio'n emosiynol neu'n gorfforol dro ar ôl tro.
Newidiadau Tymer
Y teimlad o ddicter a rhwystredigaeth y gallech chi gael trafferth i’w reoli.
Rhywioldeb a Hunaniaeth o ran Rhywedd
Pan fod eich cyfeiriadedd rhywiol, gweithgareddau rhywiol a’ch teimladau rhywiol yn eich gofidio a’ch drysu chi neu rywun arall. Pan ydych yn ansicr am sut rydych yn teimlo’n fewnol o ran eich rhyw.
Delwedd o’r Corff ac Anhwylderau Bwyta
Weithiau gall eich perthynas gyda bwyd gael effaith negyddol ar eich lles.
Camddefnyddio Sylweddau a bod yn gaeth iddynt
Y teimlad o fod yn ddibynnol ar weithgaredd neu sylwedd sy'n effeithio’n negyddol ar eich bywyd dyddiol.
Anawsterau Teulu a Pherthynas
Gall perthynas fod yn anodd ac yn gymhleth a gall arwain at deimladau sy’n eich cynhyrfu neu eich drysu
Anhwylder Straen Wedi Trawma
Os ydych wedi bod yn rhan o ddigwyddiad trawmatig neu wedi bod yn dyst i ddigwyddiad o’r fath, mae’n gyffredin dioddef teimladau sy’n eich cynhyrfu, eich gofidio neu’ch drysu am ychydig amser.
Hunan-niweidio
Hunan-niweidio yw pan ydych yn eich niweidio eich hun fel ffordd o ddelio gyda theimladau anodd iawn.
Profedigaeth a Cholled
Ar ôl marwolaeth rhywun agos, gallech chi brofi ystod o anawsterau wrth i chi dderbyn eich colled.
  • MindHub BannerBase

We use cookies to give you the best possible experience.

By continuing to use our website we assume you agree with our cookie policy.